Yr Hanes yn Llawn
Amdanom Ni
Wedi’i leoli yng nghanol Llanrug, Gwynedd, mae Salon Gwallt a Harddwch Elaine wedi bod yn ganolfan o steil a soffistigedigrwydd ers dros dair cenhedlaeth. Heddiw rydym yn arbenigo mewn toriadau cyrliog a thriniaethau harddwch modern ac fe'n gelwir yn arbenigwyr mewn steilio a chryfhau cyrls naturiol.
Yr hyn sy’n ein gosod ar wahân yw nid yn unig ein hymroddiad i aros ar flaen y gad o ran tueddiadau’r diwydiant trwy dechnoleg flaengar a hyfforddiant cyfoes ond hefyd ein hymrwymiad diwyro i gadw’r awyrgylch cynnes, teuluol sy’n cyfarch cleientiaid newydd a ffyddlon. Mae ein tîm, sy'n teimlo'n debycach i deulu clos, yn gwasanaethu cleientiaid o bob oed gyda chyfuniad o broffesiynoldeb a swyn hamddenol.
Yn Elaine's, gallwch ddisgwyl awyrgylch cyfeillgar ond proffesiynol lle mae staff cymwys iawn yn defnyddio cynhyrchion o'r ansawdd uchaf yn unig i sicrhau eich bod yn gadael wedi ymlacio ac wedi'ch adfywio. P'un a ydych chi'n chwilio am yr edrychiad gwallt diweddaraf neu driniaeth harddwch hyfryd, byddwch yn dawel eich meddwl y byddwch mewn dwylo diogel yn Salon Gwallt a Harddwch Elaine.
Taid (Alwyn Barbwr)
Dechreuodd y cyfan gyda Taid pan agorodd ei siop barbwr yn 1945 o’i ystafell ffrynt yn y tŷ drws nesaf i ble mae’r salon heddiw. Roedd Alwyn yn adnabyddus yn yr ardal fel Alwyn Barbwr er iddo groesawu dynion a merched i'w gadair. Ar ôl y rhyfel bu galw mawr am ei wasanaeth - digon iddo ehangu a symud i ofod mwy yn Neiniolen. Ar ôl llawer o flynyddoedd hapus yno, dychwelodd i Lanrug a sefydlu'r salon yn yr adeilad ble y mae heddiw.
Mam (Elaine)
Dilynodd fy Mam, Elaine, yn ôl traed ei thad a chymerodd y busnes drosodd 50 mlynedd yn ôl pan wnaeth Taid ymddeol. Aeth y salon yn naturiol o Siop Alwyn Barbwr i Siop Elaine. Dros y blynyddoedd, mae Mam wedi troi ei dwylo at bron unrhyw beth yn y byd trin gwallt ond y dyddiau hyn, nid oes dim yn well ganddi na thrin y cwsmeriaid ffyddlon sy’n dychwelyd bob wythnos am eu hapwyntiad. Mae Mam yn gwerthfawrogi ei chwsmeriaid ffyddlon gan gynnwys rhai oedd hefyd yn gwsmeriaid i Taid ac yn ymfalchïo mewn triniaethau a steiliau trin gwallt clasurol.
Gemma
Ac yn awr dyma fi! Mae Mam yn dal i fy helpu i redeg Salon Elaine, ond fi bellach yw’r prif gyswllt ar gyfer y busnes ac wrth fy modd yn gweld y busnes yn addasu i dueddiadau modern tra’n parhau i gadw’n driw i’w gwreiddiau. Rwy'n treulio hanner fy amser yn y busnes a hanner ar y busnes, yn ei ddatblygu ac yn sicrhau ein bod yn symud gyda'r oes fodern. Yn wahanol i Taid a Mam, dydw i ddim yn trin gwallt ond fe wnes i gyflwyno ochr harddwch i'r busnes 18 mlynedd yn ôl. Yn ogystal â rhedeg y busnes, rydw i hefyd yn gweithio fel therapydd harddwch yn y salon. Rwyf hefyd yn fam i ddau o blant hyfryd ond nid yw'n amlwg eto a fyddan nhw yn dilyn ôl troed y teulu. Gyda’n tîm ffyddlon o staff y tu ôl i ni a’r weledigaeth i addasu ac esblygu, rwy’n siŵr y bydd salon Elaine yma am amser hir i ddod.