top of page

CACI

Mae CACI International wedi paratoi'r ffordd o ran gwrth-heneiddio, adnewyddu croen a datrysiadau croen problemus ers dros ddau ddegawd. Mae ein triniaethau yn aml yn cael eu disgrifio fel 'cyfrinach fwyaf y carped coch' ac wedi denu nifer o enwogion trawiadol gan gynnwys y teulu brenhinol, sêr ffilmiau, modelau gwych, golygyddion harddwch ac artistiaid colur o bedwar ban byd.

CACI treatment

Beth yw CACI?

Defnyddio’r datblygiadau technolegol a gwyddonol diweddaraf i gynnig amrywiaeth o driniaethau, sydd wedi’u datblygu’n benodol i ddarparu atebion wedi’u teilwra ar gyfer dynion a merched o bob oed a math o groen.

 

CACI Synergy yw'r system wyneb mwyaf datblygedig a dangoswyd ei bod yn lleihau dyfnder crychau hyd at 75% ac yn gwella hydwythedd croen o hyd at 88%. Mae'n cynnig amrywiaeth o dechnolegau unigryw gan gynnwys S.P.E.D® Dual Action Technology, sy'n darparu adnewyddiad croen ar yr un pryd a thynhau'r wyneb.

Nodwch: Gall y prisiau isod newid. Gwiriwch gyda'r salon er mwyn cael y prisiau diweddaraf.

CACI Signature Non-Surgical Facial Toning

(60 munud)

Mae'r driniaeth hon yn anfewnwthiol, gan ddefnyddio ysgogiadau micro-gerrynt. Bydd hyn yn codi a thynhau cyhyrau eich wyneb ac ardal y gwddf, tra'n gwella elastigedd croen ac yn lleihau ymddangosiad llinellau mân a chrychau. Yn cryfhau'ch wyneb ac yn rhoi golwg fwy ifanc, ffres a gloyw i'ch croen. 

       

Synergy £55.00                Cwrs o 10 £495

CACI Deep Cleansing Delux 

(45 munud)

 

Dyma’r driniaeth digennu orau i'ch croen ar gyfer gwedd fwy disglair a llyfnach. Mae microdermabrasion cylchdröol di-grisial gweithredu deuol a therapi golau LED yn cael eu defnyddio i ddigennu ac ysgogi ar gyfer gwedd gliriach. Mae Wrinkle Comb unigryw CACI - dewis nad yw’n fewnwthiol yn lle Botox a llenwyr - yn cael ei ddefnyddio i dargedu llinellau mân a chrychau i leihau rhoi llyfndewdra. Yna mae’r wyneb driniaeth hon yn cael ei chwblhau gyda'r Hydro Masg i hydradu eich croen yn ddwys.

£45.00

Cwrs o 6 £250.00

CACI Synergy Purifying 

(45 munud)

Mae'r driniaeth hon yn mynd i'r afael â chroen problemus ac yn gadael eich gwedd yn edrych yn llyfn ac yn loyw ac iach. Mae cyfuniad o therapi golau LED coch a glas, glanhau dwfn a thechnegau digennu'r croen yn cael eu defnyddio i fywiogi a rhoi tôn gwastad i’ch croen yn effeithiol. 

 

 £45.00

CACI Ultimate Non-Surgical Facial Toning

(90 munud)

Mae'r driniaeth hon yn cyfuno CACI Signature Non-Surgical Facial Toning â thriniaeth CACI Ultimate Rejuvenation. Bydd ysgogiadau micro-gerrynt yn codi ac yn tynhau cyhyrau eich wyneb ac ardal y gwddf. Mae eich croen yn cael ei ddigennu gan ficrodermabrasion cylchdröol di-grisial gweithredu deuol a therapi golau LED yn cael eu defnyddio ar gyfer gwedd gliriach. Mae Wrinkle Comb CACI i dargedu llinellau mân a chrychau. I gwblhau'r driniaeth yma, mae’r Hydro Mask yn cael ei ddefnyddio i ddarparu ymchwydd o hydradiad dwys i adnewyddu'ch croen.

 

Synergy £76.00

Cwrs o 10 £675.00

Triniaethau cyflym

Gellir perfformio triniaethau cyflym naill ai fel rhai annibynnol neu fel ychwanegiadau at unrhyw un o'n triniaethau eraill

CACI Skin Confidence Peel  

(30 munud)

Wedi'i gynllunio i feddalu a mireinio ymddangosiad marciau ymestyn a chreithiau, mae'r driniaeth hon yn defnyddio plicio uwchsonig ynghyd ag effeithiau adfywio ysgogiad microlif i sbarduno atgyweirio meinwe croen a gwella.  

 

Sengl £33

Cwrs o 6 £175.00

CACI Lip Booster
(15 munud)

Beth am wella eich gweflau gyda Wrinkle Comb CACI. Wedi'i ddylunio i roi gwefusau llawnach, mwy trwchus a meddalu llinellau gwefus uchaf, bydd y driniaeth gyflym hon yn eich paratoi at barti mewn dim o amser.  

 

£20

CACI Hydratone
(15 munud)

Mae'r driniaeth hon wedi'i chynllunio i feithrin, hydradu a thynhau’r croen. Mae rholeri wyneb sy'n allyrru ysgogiadau micro-gerrynt yn cael eu tylino'n ysgafn dros fwgwd wyneb gel hydradol. Mae'r egni adfywiol sy’n cael ei drosglwyddo trwy'r rholeri yn darparu hydradiad cyflym a dwys ac yn helpu i adfer cadernid y croen, meddalu llinellau mân ac adnewyddu'ch croen. Yn ddelfrydol ar gyfer trin croen wedi'i ddadhydradu neu wedi'i ddifrodi gan yr haul.                                                                                                                                       

£26.00

Triniaethau Uwch

Gellir perfformio triniaethau uwch naill ai fel rhai annibynnol neu fel ychwanegiadau at unrhyw un o'n triniaethau eraill. Nid yw triniaethau uwch ar gael gyda phob system Ultimate. Gofynnwch i'ch therapydd i weld os ydynt yn cynnig y triniaethau hyn.

CACI Eye Revive
(30-40 munud)

Beth am godi a grymuso’r cyhyrau o amgylch ardal eich llygad, yn enwedig lle y gallech fod yn dueddol o golli diffiniad wrth i chi heneiddio a datblygu 'amrannau cwflog. Mae'r driniaeth hon yn defnyddio rholeri micro-gerrynt llawn serwm ynghyd â'r Eye Revive Mask lleddfol i leihau golwg chwyddedig a chylchoedd tywyll, a meddalu ymddangosiad llinellau mân a chrychau o amgylch eich llygaid.   

 

£41.00
Cwrs o 6 £225.00

CACI Jowl Lift

(20 munud)

Targedu llacrwydd cyhyrau o amgylch y llinell gên gan ddefnyddio micro-gerrynt CACI. Bydd y driniaeth hon yn codi a grymuso eich cyhyrau ac yn ailddiffinio cyfuchliniau'r wyneb i roi golwg mwy cadarn, a thynn. Delfrydol ar gyfer merched sydd eisiau gwella ymddangosiad llinellau gên sy’n disgyn ac ar gyfer dynion sydd eisiau llinell gên mwy diffiniedig.

 

£33.00

Cwrs o 6 £175.00

CACI Clear and Calm

Back Facial

(45 munud)

Datgelu croen pelydrol, heb unrhyw frychau. Mae'r profiad adfywio hwn yn cyfuno digennu, rheoli brychau wedi'i dargedu a therapi golau LED i hyrwyddo tôn croen llyfn, gwastad ar gyfer y cefn.

 

 £45.00

Cysylltwch i gael pris am gwrs

CACI Electro Cellulite Massage

(Bum Lift) 

(45 munud)

CACI Electro Cellulite Massage (30 munud)

Yn codi, siapio a rhoi ffyrfder ar unwaith i ardal eich pen-ôl a'ch clun. Mae'r driniaeth hon yn gwella ymddangosiad marciau ymestyn ac yn torri dyddodion brasterog i lawr. Mae'n ysgogi cylchrediad a draeniad lymffatig, a fydd yn helpu i fflysio tocsinau i ffwrdd gan roi golwg llyfnach a thynnach, di-grych. Mae'r driniaeth hon yn ddelfrydol ar gyfer blitsio’r corff cyn gwyliau.

 

£45.00
Cysylltwch i gael pris am gwrs

Hand Rejuvination Treatment
(30 munud)

Mae ein Rejuvenating Hand Mask yn faneg cyflyru croen dwys sy'n cael ei rhoi ar y dwylo i hydradu a maethu'r croen, yna caiff Electro Gloves (wedi'u gwneud o ddeunydd dargludol trydanol arbennig) eu gosod dros y Rejuvenating Hand Mask a phan fyddant yn cael eu hactifadu gyda'r CACI System byddant yn danfon ysgogiadau trydanol bach iawn sy'n helpu i wella cadernid y croen a hybu cylchrediad. Bydd y driniaeth hon yn gwneud i’d dwylo deimlo'n sidanaidd yn llyfn ac yn edrych yn feddalach ac yn fwy ifanc.

£25.00 am 1 driniaeth 
£15.00 fel ychwanegiad i unrhyw wasanaeth arall yn ein dewislen

Cwrs o 6 £130.00

bottom of page