DWYLO A THRAED
O ran ewinedd naturiol, dim ond gyda brandiau sy'n arwain y byd yr ydym yn ystyried gweithio.
Mae'n ymwneud â chi, pwy ydych chi a phwy rydych chi'n dewis bod. Dewiswch liw i adrodd eich stori neu gyflawni'r mani neu'r pedi perffaith a sicrhau bod eich ewinedd, eich dwylo a'ch traed yn edrych ar eu gorau gyda'n casgliad o ansawdd yn y salon.
O liwiau ewinedd sy'n sychu'n gyflym a throshaenau gel i'r cotiau sylfaen rhagnodol a thriniaethau traed adferol, ewch ati i sbwylio eich hun.
Ewinedd
O ran ewinedd naturiol, dim ond gyda brandiau sy'n arwain y byd yr ydym yn ystyried gweithio.
Mae'n ymwneud â chi, pwy ydych chi a phwy rydych chi'n dewis bod. Dewiswch liw i adrodd eich stori neu gael y mani neu'r pedi perffaith i sicrhau bod eich ewinedd, eich dwylo a'ch traed yn edrych ar eu gorau gyda'n casgliad o ansawdd a thriniaethau meddyginiaethol.
O liwiau ewinedd sy'n sychu'n gyflym a throshaenau gel i'r cotiau sylfaen rhagnodol a thriniaethau traed adferol, ewch ati i sbwylio eich hun.
Nodwch: Gall y prisiau isod newid. Gwiriwch gyda'r salon er mwyn cael y prisiau diweddaraf.
Jessica Cosmetics
Ffeilio a Sglein
(30 munud)
Mae ewinedd yn cael eu siapio'n hyfryd a'u trin â chôt sylfaen ragnodol, gan orffen gyda'r lliw perffaith.
£15.50
Triniaeth Ewinedd (manicure)
(50-60 munud)
Mae ewinedd yn cael eu dadansoddi a'u trin ar gyfer eu math penodol. Mae triniaeth dwylo rhagnodol Jessica yn cynnwys digennu, tylino a gofal cwtigl. Mae ewinedd yn cael eu siapio'n hyfryd a'u trin â chôt sylfaen ragnodol cyn gorffen gyda'r lliw perffaith.
£31.00
Triniaeth Ewinedd Arbennig
(70 munud)
Triniaeth Ewinedd Rhagnodol Jessica gyda manteision moethus ychwanegol o fenig wedi'u gwresogi'n thermol er mwyn treiddio'n ddyfnach i olewau a hufenau. Mae'r dewis hwn o driniaeth yn ardderchog ar gyfer cynyddu cylchrediad neu leddfu cymalau anystwyth, poenus.
£38.00
Traed
(60 munud)
Deffrowch eich synhwyrau a darganfyddwch bwerau adferol echdynion planhigion dyfrol Asiaidd i buro, glanhau, lleddfu a thawelu. Mae croen caled yn cael ei dynnu, traed a choesau yn cael eu tylino gyda hufen cyflyru. Mae cwtiglau yn cael eu paratoi ac mae ewinedd traed yn cael eu siapio a'u sgleinio'n berffaith.
£39.00
Triniaeth Traed Arbennig
(75 munud)
Triniaeth traed ZenSpa Jessica gyda buddion ychwanegol moethus bwtis wedi'u gwresogi'n thermol ar gyfer olew a hufenau yn treiddio’n dyfnach. Ardderchog ar gyfer cynyddu cylchrediad a lleddfu cymalau anystwyth, poenus.
£45.00
Triniaeth Cwyr Paraffin Moethus (20minutes)
Lleithio a meddalu’r croen ar y dwylo neu'r traed tra'n gwella chyhyrau a chymalau poenus.
£17.00
Geleration / Troshaen Mii Gel
Siapio a Sgleinio
(45-60 munud)
Mae ewinedd yn cael eu ffeilio a'u siapio, cwtiglau’n cael gofal a lliw Geleration Jessica neu Mii Cosmetics yn cael ei ddefnyddio i orffen.
£26.50
Troshaen Gel a Thriniaeth Ewinedd
(60 -70 munud)
Yn cynnwys manteision y driniaeth ragnodol foethus. Bydd eich dwylo'n llyfnach, yn sidanach ac yn fwy cadarn, bydd cwtiglau’n cael gofal, bydd ewinedd yn cael eu gorffen gyda'ch dewis chi o liw geleration Mii neu Jessica.
£38.00
Triniaeth Traed gyda Throshaen Gel
(75 munud)
Deffrowch eich synhwyrau a darganfyddwch bwerau adferol echdynion planhigion dyfrol Asiaidd i buro, glanhau, lleddfu a thawelu. Mae croen caled yn cael ei dynnu, traed a choesau yn cael eu tylino gyda hufen cyflyru. Mae cwtiglau yn cael eu paratoi ac mae ewinedd traed yn cael eu siapio a'u caboli, a’u gorffen â lliw geleration Jessica neu Mii Cosmetics.
£42.00
Tynnu Troshaen Gel
(20-30 munud)
Cael gwared ar geleration presennol yn unig.
£12.50
gyda set newydd £5.50
Ategolion ewinedd
Sglein Ffrengig
ychwanegu £2.50
Celf ewinedd a gliter :
o 50c yr ewin
Bio Sculpture
Mae Bio Sculpture yn gynnyrch gwahanol iawn i geliau eraill a lliwiau gel hybrid, ac ni fydd yn achosi unrhyw niwed i'r ewinedd naturiol. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o systemau gel, nid yw Bio Scultpture yn e-acrylig ac nid oes angen paent preimio neu ddadhydradu er mwyn i'r gel gadw at yr ewin naturiol. Maen nhw’n para llawer hirach na lliw ewinedd arferol, tua 3 i 4 wythnos fwy na thebyg.
Mae Bio Sculpture yn fformiwleiddiad unigryw, di-acrylig sy'n eich galluogi i gynnal ewinedd iach tra'n dal i allu gwisgo triniaeth ewinedd nad yw’n plicio.
Mae Gel Bio Sculpture yn gwella o dan olau UV, gan adael yr ewin yn gryf ond yn hyblyg gyda gorffeniad sgleiniog naturiol. (Fegan a heb greulondeb)
Troshaen Bio Sculpture
(90 munud)
O £36.50
Tynnu Biosculpture
(20-30 munud)
Tynnu bio-gel yn unig £13.00
Gyda set newydd £5.00
Elim Pedicure
Mae Elim yn driniaeth trin traed gradd feddygol sy'n defnyddio cynhwysion o'r radd flaenaf i dynnu croen caled a chaledennau o'r traed.
Elim Mediheel Express - £22.00
Elim Mediheel Delux gyda throshaen gel - £47.00