top of page

Ein Polisïau

Rydym am wneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad gorau posibl yn Salon Gwallt a Harddwch Elaine’s. Isod fe welwch rywfaint o wybodaeth bwysig am ein polisïau. 

BLAENDAL

Bydd isafswm blaendal o 50% o gost eich triniaeth yn cael ei godi os ydych: 

 

  •  wedi methu apwyntiad gyda ni  

  •  yn gleient newydd  

  •  yn trefnu apwyntiad ar-lein  

  •  yn trefnu apwyntiad sy'n gymhleth o ran cywiro lliw neu'n cymryd dipyn o amser, neu fel rhan o gwrs o driniaethau 

Cadw Amser

Byddwn yn gwneud ein gorau i beidio â chanslo neu aildrefnu eich apwyntiadau ac i beidio â'ch cadw chi i aros ar ôl i chi gyrraedd am eich apwyntiad. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich bod yn gwneud yr un peth yn ôl.  

  

Os ydych yn rhedeg yn hwyr, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Byddwn yn gwneud ein gorau i'ch ffitio i mewn, ond efallai na fyddwn yn gallu darparu'r gwasanaeth neu'r driniaeth lawn. 

CANSLO

Rydym yn deall y bydd rhaid i rhai cwsmeriaid ganslo apwyntiad weithiau. Rhowch o leiaf 48 awr o rybudd, neu bydd rhaid i ni godi ffi canslo o 50% o gost eich gwasanaeth neu driniaeth. Os byddwch yn methu â rhoi unrhyw rybudd ac yn peidio troi fyny na rhoi rheswm dilys dros methu eich apwyntiad, byddwn yn codi 100% o gost y gwasanaeth neu'r driniaeth.   

 

Os oes angen i chi ganslo, rhowch alwad i ni neu defnyddiwch ein system archebu ar-lein. Peidiwch ag anfon e-bost na neges ar gyfryngau cymdeithasol gan y bydd yn bosibl na fyddwn yn ei dderbyn mewn pryd, ac o ganlyniad bydd tâl canslo yn cael ei godi. 

Polisi Cwcis

Pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan, mae ffeil fach o wybodaeth o'r enw cwci yn cael ei lawrlwytho i'ch cyfrifiadur neu'ch dyfais. Mae hyn yn golygu y gall y wefan gasglu ystadegau am ymddygiad ein hymwelwyr a phennu faint o bobl sy'n pori'r gwahanol adrannau o'n gwefan. Mae cwcis hefyd yn datgelu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio'r wefan, megis p'un a ydynt yn ymwelwyr sy'n dychwelyd neu'n bobl sy'n ymweld am y tro cyntaf. Darllenwch ein Polisi Cwcis 

bottom of page